Mae consortiwm o dan arweiniad Agile KineticLimited yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn cyllid gan Innovate UK, asiantaetharloesi y DU ar gyfer prosiect sy’n torri tir newydd o’r enw "DadansoddiSymudiadau ar gyfer Meddygaeth Gyhyrysgerbydol Fanwl". Mae’r cyllidhwn yn rhan o gystadleuaeth “Hyrwyddo Meddygaeth Fanwl” Innovate UK, syddwedi’i hanelu at gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu arloesol a allaidrawsnewid y maes meddygaeth fanwl.
Mewn partneriaeth âChyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol PrifysgolCaerdydd (MSKBRF) ac Acumed Ltd, nod y prosiect yw ail-siapio’r ffordd y mae dadansoddisymudiadau yn cael ei berfformio i roi diagnosis a monitro cyflyraucyhyrysgerbydol, yn ogystal â gwella ar ôl llawdriniaeth neu anaf. Drwy ddisodli dulliau cyfredol costus,anghyfleus sy'n cymryd llawer o amser, bydd Agile Kinetic yn adeiladu ar eullwyfan MoveLab® cyfredol y gall pobl gael mynediad ato drwy ddefnyddio ffôn symudol.
Bydd yr ateb arloesol hwn yn galluogi asesiadausymudiadau clinigol o bell, sydd wedi’u dilysu, ar gyfer nodi cyflyrau neugymhlethdodau yn gynt, gan arwain at driniaethau cyflymach, wedi’u targedu’nwell, ac yn y pen draw canlyniadau gwell i gleifion. Er y bydd y prosiect yncanolbwyntio'n bennaf ar eiddilwch, mae potensial i'w ddefnyddio hefyd wrthdargedu rheolaeth ragweithiol cyflyrau iechyd cyhyrysgerbydol a chyflyraucronig.
Dywedodd Peter Bishop, Sylfaenydd AgileKinetic: "Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi derbyn cyllid gan InnovateUK, a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ein system dadansoddi symudiadaublaengar ymhellach sydd â’r potensial i drawsnewid y maes meddygaeth gyhyrysgerbydol fanwl. Drwy wneuddadansoddi symudiadau yn fwy hygyrch ac effeithlon, ein nod yw gwella gofal achanlyniadau i gleifion ledled y DU."
Bydd y prosiect hefyd yn elwa o arbenigeddcydweithredwyr eraill o Gymru, gangynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydda’r Fro, Big Lemon Creative ac Uwchgyfrifiadura Cymru, a bydd y prosiect hwn yndefnyddio pŵer data mawr, meddygaeth fanwl a darpariaethwell o ofal gwerth uchel i wella profiad y claf ar draws ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol.
Dywedodd Cathy Holt, Athro Biomecaneg aPheirianneg Orthopedig yn Ysgol Peirianneg Caerdydd: "Mae derbyn cyllidymchwil a datblygu UKRI yn newyddion gwych i’r Cyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol,gan ganiatáu cydweithio clos gydag AgileKinetic i greu adnoddau dadansoddi swyddogaethol fanwl newydd y gellir eudefnyddio’n hawdd yng nghartrefi pobl, canolfannau iechyd a chwaraeon. Bydd ygwelliannau dilynol i fynediad clinigol a chleifion o fudd mawr i'rddarpariaeth gofal ar gyfer clefydau a chyflyrau cyhyrysgerbydol.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwerthiant, DU ac EwropAcumed Ltd: “Rydyn ni wrth ein bodd o allu cefnogi Agile Kinetic gyda’r dechnolegddatblygol gyfffrous yma. Eu gweledigaeth i gefnogi adsefydlu cleifion, ynghydâ'u hymrwymiad parhaus i archwilio datblygiad dadansoddi symudiadau manwl iddiwallu angen clinigol nas diwallwyd, yw'r union gydweithrediad sy'n cyd-fyndyn dda â chenhadaeth Acumed eihun o ran arloesi gyda phwrpas.”
Mae’r prosiect yn adeiladu ar ymchwil achydweithio blaenorol a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, Accelerate Cymru aSefydliad Alan Turing. Cefnogodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Agile Kinetic gyda’rbroses o wneud cais, drwy ddarparu adolygiad ac arweiniad ar ysgrifennu cais neilltuol.
Dywedodd Sarah Taylor, Arweinydd y Sector Deallusrwydd:“Llongyfarchiadau i Agile Kinetic ar eu cais llwyddiannus! Roedd yn wycheu cefnogi ac adolygu eu cais. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut maeeu gwaith yn datblygu gyda chymorth ariannol ymchwil a datblygu UKRI, ac i weldsut gall eu technoleg lywio’r broses o fonitro cyflyrau cyhyrysgerbydol o bell”.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn,cysylltwch ag Agile Kinetic Limited ar info@agilekinetic.comneu ewch i agilekinetic.com
Ynglŷn ag AgileKinetic Limited:
Cwmni meddalwedd o Gasnewydd yn Ne Cymru yw AgileKinetic Limited sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddigido symudiadau drwyddefnyddio dyfeisiau y mae pobl yn berchen arnyn nhw’n barod. Eu cenhadaeth yw gwneudy broses o ddysgu o symud yn syml, yn hygyrch ac yn gynaliadwy.
Ynglŷn ag Innovate UK:
Mae Innovate UK yn llywio cynhyrchiant a thwfeconomaidd drwy gefnogi busnesau i ddatblygu a gwireddu potensial syniadaunewydd. Maen nhw’n cysylltu busnesau â'r partneriaid, y cwsmeriaid a’rbuddsoddwyr a all helpu busnesau i droi syniadau yn gynnyrch a gwasanaethaumasnachol llwyddiannus a thwf busnes.
Maen nhw’n ariannu cynlluniau cydweithredol busnesac ymchwil i gyflymu arloesedd ac i ysgogi buddsoddiadau busnes mewn ymchwil adatblygu. Mae cymorth ar gael i fusnesau ar draws pob sector economaidd,cadwyni gwerth a rhanbarthau’r DU. Mae Innovate UK yn rhan o Ymchwil ac Arloesiyn y DU. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.innovateuk.ukri.org.
Ynglŷn â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’nllywio’r broses o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd mewn iechyda gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni’n gweithredu fel rhyngwyneb deinamig,yn cysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd gyda phartneriaid ymchwil, yn ariannu cyfleoedd,ac yn y pen draw, gyda rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, y defnyddwyr.Ac oherwydd ein bod ni mewn deialog barhaus gyda’r holl grwpiau hyn, rydyn ni’ngallu sicrhau ein bod yn creu’r effaith fwyaf drwy gefnogi arloesedd sy’n myndi’r afael â’r anghenion mwyaf hanfodol.
Yn y pen draw, mae ein gwaith yn helpu nid ynunig gyda lles meddyliol a chorfforol pobl sy’n byw yng Nghymru, gan gyflwyno dulliauarloesol newydd i’r brif ffrwd, ond mae hefyd yn creu twf, swyddi a ffyniant ardraws ein cenedl gyfan.
I gael gwybod mwy, ewch i lshubwales.com
We are working very closely with a number of innovative NHS and private clinicians to solve major healthcare challenges, and are always excited to learn about other opportunities to drive progress and collaborate